Rhaid
i unrhyw enweiriwr 12 mlwydd oed neu hŷn, sy’n pysgota eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw neu lyswennod yng Nghymru, Lloegr (ond nid Tuedd) neu Esk a’i rhagnentydd yn yr Alban fod â thrwydded enwair Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae trwyddedau genwair ar gael yn Swyddfeydd Post ledled Cymru a Lloegr, ar-lein, trwy Ddebyd Uniongyrchol a thros y ffôn ar 0844 800 5386. Mae’r llinell ffôn ar agor rhwng 8.30yb ac 8.00yh pob dydd o Fawrth hyd Fedi, ac 8.30yb a 6.00yh o Hydref hyd Chwefror.
Faint yw ei phris?
Prisiau Trwyddedau Genwair 2010/11 – yn ddilys o Ebrill y 1 2010 hyd Fawrth yr 31 2011
| Dosbarth |
Brithyllod afon, torgochiaid, bysgod dŵr croyw (bysgod bras) a llyswennod |
Eogiaid a brithyllod mudol (brithyllod môr) |
| Tymor cyfan (daw i ben ar Fawrth yr 31 2010) |
£27.00 |
£72.00 |
|
Gostyngiad yr ifainc |
£5.00 |
£5.00 |
|
Gostyngiad yr hen |
£18.00 |
£48.00 |
|
8 Niwrnod |
£10.00 |
£23.00 |
|
1 Diwrnod |
£3.75 |
£8.00 |
Gyda thrwydded eogiaid a brithyllod mudol, gallwch bysgota brithyllod afon a physgod bras hefyd. Trosedd yw pysgota heb drwydded.
Cofiwch: os ydych yn pysgota â 3 neu 4 genwair, bydd angen i chi brynu ail drwydded.
Trwyddedau gostyngedig
- Mae gostyngiad yr ifanc ar gael i enweirwyr rhwng deuddeg ac un ar bymtheg mlwydd oed (cynhwysol)
- Mae gostyngiad yr hen ar gael i enweirwyr 65 mlwydd oed neu hŷn
- Mae gostyngiad yr anabl ar gael i enweirwyr sydd â Bathodyn Glas neu sy’n derbyn Lwfans Byw i’r Anabl. Bydd angen i chi roi’ch rhif Bathodyn Glas neu’ch rhif Yswiriant Cenedlaethol wrth brynu trwydded
Gwybodaeth bwysig
- Nid oes angen trwydded ar enweirwyr tan 12 mlwydd oed
- Daw trwyddedau llawn a gostyngedig i ben ar Fawrth yr 31 pob blwyddyn
- Mae trwydded genwair 1 diwrnod yn ddilys am 24 awr olynol
- Mae trwydded genwair 8 niwrnod yn ddilys am 192 awr olynol o’i hamser a’i dyddiad dechreuol
Rhybudd!
Os pysgotwch heb drwydded enwair, rydych yn twyllo genweirwyr eraill. Trosedd yw pysgota pysgod dŵr croyw a llyswennod heb drwydded enwair ddilys, ac os delir chi, gallwch wynebu hyd at £2,500 o ddirwy.
Buddsoddir yr arian a godir trwy werthu trwyddedau genwair yn uniongyrchol yng ngwaith pysgodfeydd sydd o fudd i bob genweiriwr.